Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/01/2025 i'w hateb ar 14/01/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i weithwyr llawrydd ym maes teledu a ffilm i sicrhau bod sgiliau yn cael eu cynnal yn y diwydiant?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella seilwaith ffyrdd yng Ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch amddiffyn pobl ifanc sy'n agored i niwed yng Nghymru rhag gangiau camfanteisio rhywiol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DG i sicrhau bod gwerthoedd pobl Cymru yn cael eu cynrychioli ar y llwyfan ryngwladol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chomisiynu ymchwiliad cenedlaethol i gangiau camfanteisio rhywiol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ddiogelwch llethrau yng Nghymru yn dilyn tirlithiadau diweddar?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n byw mewn tlodi?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau iechyd i bobl canolbarth Cymru?
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith newidiadau yswiriant gwladol ar y trydydd sector yng Nghymru, a pha gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i liniaru'r effaith?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau sy'n cael eu cymryd i wella a hyrwyddo iechyd a llesiant o fewn y gwasanaethau tân ac achub?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ail-lansio rhaglen ddatgarboneiddio yn seiliedig ar ardaloedd fel olynydd i gynllun Arbed?