Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/01/2020 i'w hateb ar 14/01/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o gynlluniau Llywodraeth y DU i ddileu ymrwymiad i amddiffyn ffoaduriaid sy’n blant yn Ewrop sy’n ceisio ailuno â’u teulu yn y DU ar ôl Brexit?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysgu cymorth cyntaf sylfaenol mewn ysgolion?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith buddsoddiad economaidd yn Ogwr ers 2016?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y rhaglen Erasmus Plus?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Nghasnewydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y diwydiant prosesu bwyd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd y sector gweithgynhyrchu amddiffyn i economi Cymoedd De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu mynediad cyfartal at wasanaethau cerddoriaeth i blant yn Islwyn, ni waeth beth yw incwm rhieni?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y defnydd o gerbydau trydan?