Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/12/2023 i'w hateb ar 13/12/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar rôl Llywodraeth Cymru yn y cynllun uwch-noddwr ar gyfer ffoaduriaid o Wcrain?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y tywydd oer diweddar ar bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol ynglŷn â sut y bydd yn ateb y galw dosbarthu uwch yn Rhondda y Nadolig hwn?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl hŷn yng Nghymru gyda'r costau byw cynyddol?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y cynnydd o ran gwneud Cymru'n genedl noddfa?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu?
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i fynd i'r afael ag effaith tlodi plant ar gyrhaeddiad yn yr ysgol, yng ngoleuni canlyniadau PISA 2022?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar gyfleoedd i godi eu hunain allan o dlodi?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu taclo trais yn erbyn menywod ar y stryd ym Mangor?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Ofgem ynghylch taliadau sefydlog yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl o gymunedau difreintiedig yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus y gaeaf hwn?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o degwch y system etholiadol ar gyfer etholiadau'r Senedd?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch yr effaith ar Gymru yn sgil Fframwaith Preifatrwydd Data yr UE a'r UD?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru sy'n deillio o Fil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth y DU?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru am y pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru i helpu menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch effaith y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ar drigolion Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith y DU ynghylch diweddariad Ombwdsmon y Gwasanaeth Seneddol ac Iechyd ar eu hymchwiliad i'r modd y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfathrebu newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 a fydd yn machlud cyfraith yr UE ar ddiwedd y flwyddyn hon, ar gyfraith Cymru?
Pa gyngor cyfreithiol mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i’r Llywodraeth o ran pa elfennau o ddeddfwriaeth cyflogaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd neu Lywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn ei chael ar ymddiriedaeth mewn gwleidyddion?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) sydd wedi'i dynnu'n ôl?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith bosibl Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar y nifer sy'n pleidleisio?
Pa gyngor cyfreithiol mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i’r Llywodraeth ynghylch eu cyfraniad i ymchwiliad COVID y Deyrnas Unedig?
Comisiwn y Senedd
Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i sicrhau y gall y Senedd barhau i gyfarfod fel senedd hybrid?
Pa drafodaethau y mae Comisiwn y Senedd wedi'u cael gyda'r Bwrdd Taliadau ynghylch cyflogau staff cymorth yr Aelodau?
Pa gamau mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i sicrhau bod cronfa pensiwn ddim yn ariannu datgoedwigo?