Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/12/2022 i'w hateb ar 13/12/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ58891 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pwysau ar wasanaethau atal digartrefedd dros gyfnod y Nadolig?

 
2
OQ58867 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

Sut fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio canlyniadau cyfrifiad 2021?

 
3
OQ58862 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

Pa fuddion sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i daith y Prif Weinidog i Qatar yn ystod Cwpan y Byd?

 
4
OQ58896 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

Sut mae'r Llywodraeth yn helpu i drechu tlodi yn Nwyrain De Cymru yn ystod yr argyfwng costau byw?

 
5
OQ58857 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu economi Abertawe?

 
6
OQ58870 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o sefydlu ysgol feddygol Bangor?

 
7
OQ58890 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ofal diwedd oes yng Nghymru?

 
8
OQ58894 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg?

 
9
OQ58877 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau deintyddol y GIG ar gyfer plant a phobl ifanc?

 
10
OQ58895 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi busnesau bach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
11
OQ58873 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn hybu defnydd o’r iaith Gymraeg yng Ngorllewin De Cymru?

 
12
OQ58893 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghanol De Cymru?