Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/12/2017 i'w hateb ar 13/12/2017
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan grwpiau agored i niwed yng Nghymru fynediad at raglenni cyflogadwyedd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Gyllid Myfyrwyr Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am pryd y bydd y cod anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei gyhoeddi?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am blant sydd yn cael eu haddysg gartref?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog datblygu cysylltiadau cryf rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i gyfrannu tuag at ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y bobl ifanc sy'n gadael ysgol nad ydynt yn mynd i mewn i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin De Cymru?
Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i hyrwyddo swyddi llywodraethwyr ysgol a llenwi swyddi gwag llywodraethwyr o fewn y system addysg yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg yn Sir Benfro?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am arolygiadau Estyn yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar addysg drydyddol yng Nghymru?
Pa gefnogaeth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i brifysgolion Cymru i'w galluogi i gefnogi'r sector busnes yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant gwella addysg i ysgolion?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y mesurau sydd ar waith ar hyn o bryd i ddiogelu myfyrwyr yng Nghymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio mewnblaniadau rhwyll yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyfforddi meddygon teulu yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r risg o bobl yng Nghymru yn dioddef strôc?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog symud adnoddau o ofal eilaidd i ofal iechyd sylfaenol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sicrhau bod gofal meddygon teulu yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol newydd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae cyfarwyddeb oriau gwaith yr Undeb Ewropeaidd yn gymwys i staff y GIG?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau a gyhoeddwyd ynghylch trin prolaps organau'r pelfis ac anymataliaeth?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau ysbytai ar gyfer trigolion Powys?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i atal diabetes math 2 yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymhlethdodau a achosir gan fewnblaniadau rhwyll yng Nghymru?