Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/11/2024 i'w hateb ar 13/11/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

1
OQ61844 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cael gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynglŷn a sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn derbyn cyllid digonol i barhau i ddarparu gwasanaethau?

 
2
OQ61856 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn a chyllideb hydref Llywodraeth y DU?

 
3
OQ61848 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer yr arian ychwanegol a ddyrannwyd iddi yng nghyllideb Llywodraeth y DU?

 
4
OQ61835 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU ar Gymru?

 
5
OQ61841 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i ddiwygio ardrethi busnes?

 
6
OQ61847 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Sut y mae polisi trethi Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau yn ne-ddwyrain Cymru?

 
7
OQ61833 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Ydy'r Llywodraeth yn bwriadu diweddaru Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 i ymgorffori ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn dilyn argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg?

 
8
OQ61830 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei gael gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg a gyda awdurdodau lleol ynglŷn a hybu y Gymraeg ymysg pobl o leiafrifoedd ethnig?

 
9
OQ61827 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa ystyriaeth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i sicrhau bod symiau canlyniadol Barnett o gyllideb yr hydref Llywodraeth y DU yn cael eu defnyddio i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru?

 
10
OQ61820 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynghylch y pwysau ariannol presennol y mae cynghorau yn Nwyrain De Cymru yn eu hwynebu?

 
11
OQ61839 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Beth yw asesiad Ysgrifennydd y Cabinet o effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DG ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
12
OQ61819 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ym Mhreseli Sir Benfro?

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

1
OQ61826 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y gwaith amddiffyn rhag llifogydd parhaus yn y Mwmbwls?

 
2
OQ61829 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ffermio gwymon yng Nghymru?

 
3
OQ61849 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU am effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar ffermydd teuluol yng Nghymru?

 
4
OQ61831 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â llifogydd yn ardal Caerdydd?

 
5
OQ61855 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb hydref Llywodraeth y DU ar amaethyddiaeth Cymru?

 
6
OQ61846 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant amaethyddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
7
OQ61842 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith economaidd bosibl Llywodraeth y DU yn newid treth etifeddiant ar Gymru wledig?

 
8
OQ61845 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau’r risg o lifogydd yng Nghanol De Cymru, gan ystyried effeithiau newid hinsawdd a llifogydd dinistriol diweddar ledled Ewrop?

 
9
OQ61836 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa asesiad effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar effeithiau diwygiadau diweddar Llywodraeth y DU i ryddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes ar ffermydd teuluol?

 
10
OQ61854 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cymru ar ddod yn genedl sy'n arwain y byd ar ailgylchu?

 
11
OQ61851 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddynodi parc cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru?

 
12
OQ61818 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr ym Mhreseli Sir Benfro?