Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/11/2019 i'w hateb ar 13/11/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli'r amgylchedd naturiol ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella ansawdd aer ym Mhort Talbot?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi coedwigaeth Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar fridio cŵn a gyhoeddwyd ar 9 Hydref 2019?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant ffermio yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd o ganlyniad i ddatganiad Llywodraeth Cymru am argyfwng yn yr hinsawdd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut y gall sector bwyd-amaeth Cymru helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r broses o reoli tir comin yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ystyriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol ar gyfer lladd-dai yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ynni Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ffermwyr yng ngorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo lles anifeiliaid yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector tai ym Mhreseli Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo partneriaeth effeithiol rhwng llywodraeth leol a chyrff iechyd cyhoeddus yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo pobl ifanc sy'n byw mewn gofal i ganfod tai addas sy'n diwallu eu hanghenion i fyw'n annibynnol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i undebau credyd yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau lefelau digartrefedd?
Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae perchentyaeth tai gwyliau yn ei chael ar y ddarpariaeth dai yng Nghymru?
Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r effaith y mae goruchafiaeth ail gartrefi yn ei chael mewn ardaloedd sydd ag anghenion tai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn enwedig mewn trefi glan môr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â digartrefedd yng nghymoedd de Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer moderneiddio llywodraeth Leol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu tai cymdeithasol ar gyfer pobl anabl?