Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/11/2018 i'w hateb ar 13/11/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllido'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn athrawon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cofrestru ail-gartrefi fel eiddo busnes ar dderbyniadau treth cyngor?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith codi'r cap benthyg ar y cyfrif refeniw tai?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r argymhellion yn adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ar ddyfodol trefi yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gapasiti TG o fewn y GIG yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fewnfuddsoddiad i Orllewin De Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu cynhwysiant digidol mewn gofal iechyd yn Islwyn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau ailgylchu yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol cyfraddau treth incwm yng Nghymru?