Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/10/2020 i'w hateb ar 13/10/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi ynghylch mynd i'r afael â lledaeniad COVID-19 ar ystâd y llysoedd yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig parhaus ar 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am alluoedd profi COVID-19 Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adferiad economaidd ar ôl y pandemig yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch tân cladin yng Nghymru yn sgil datgeliadau bod tystysgrif diogelwch tân wedi'i llofnodi'n dwyllodrus ar gyfer blociau o fflatiau yng Nghaerdydd a thu hwnt?
Sut mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru yn cynnig gwerth am arian?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran COVID-19 yn Ynys Môn?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl yn y Rhondda i oresgyn effaith y coronafeirws?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo diogelwch cymunedol yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl yng Nghymru y mae clefyd Parkinson's yn effeithio arnynt?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen brechu rhag y ffliw eleni?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r setliad datganoli?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnal hawliau dynol pobl hŷn drwy'r pandemig COVID-19?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am y sector gwirfoddol yng Nghymru a'i ymateb i'r pandemig COVID-19?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod?
Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch rhoi mesurau ar waith i gynyddu amrywiaeth mewn cynghorau lleol?