Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/09/2023 i'w hateb ar 13/09/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch effaith terfynau cyflymder cyffredinol o 20mya ar waith yr heddlu a'r gwasanaethau tân?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd terfynau cyflymder cyffredinol o 20mya yn ei chael ar hyrwyddo ffyniant a mynd i'r afael â thlodi yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru tlodi tanwydd?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'i chael gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ynghylch lleihau unigrwydd ac unigedd ymhlith pobl hŷn?
Pa gefnogaeth sydd yn cael ei ddarparu i fanciau bwyd yng Nghanol De Cymru i sicrhau eu bod yn parhau i fedru ateb y galw?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddelio efo’r premiwm costau byw sy’n wynebu trigolion mewn cymunedau gwledig yn Arfon, fel sydd wedi ei amlygu mewn adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i bobl o Wcráin sy'n ceisio diogelwch yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r heddlu ynglŷn â goblygiadau'r terfyn cyflymder o 20mya sydd ar y gweill yng Nghymru arnynt hwy?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad y Post Brenhinol wrth ddarparu ei wasanaethau statudol yng Nghymru?
Beth yw asesiad presennol Llywodraeth Cymru o effaith yr argyfwng costau byw ar gymunedau yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ymgynghoriad cyhoeddus cyfredol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru o ran diwallu anghenion gwasanaeth tân ac achub brys yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd terfynau cyflymder cyffredinol o 20mya yn ei chael ar hyrwyddo ffyniant a mynd i'r afael â thlodi ym Mynwy?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa gyngor cyfreithiol a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru ynghylch mwynglawdd glo brig Ffos-y-Frân ym Merthyr Tudful pan barhaodd i weithredu ar ôl i'w drwydded mwyngloddio ddod i ben ym mis Medi 2022?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chymheiriaid Llywodraeth y DU ynghylch yr ymchwiliad statudol i achos Lucy Letby?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi canolfannau cyngor cyfreithiol?
Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â chyflwr stad y llysoedd yng Nghymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y berthynas bosibl rhwng Cymru a'r UE?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch lleihau cyfradd y comisiwn o werthu cartrefi preswyl mewn parciau?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am argaeledd data sydd wedi'u datgrynhoi ar y system gyfiawnder yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith bosibl newid Llywodraeth y DU ar y setliad datganoli?
Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i sicrhau bod deddfwriaeth ar gynyddu nifer Aelodau'r Senedd a gweithredu cwotâu rhywedd yn cael ei gweithredu mewn da bryd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch defnyddio celloedd yr heddlu i gartrefu carcharorion sydd wedi'u cael yn euog?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith ynghylch sefyllfa menywod a anwyd yn y 1950au ac y gwrthododd Llywodraeth y DU iddynt gael eu pensiwn gwladol?
Comisiwn y Senedd
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ddiogelwch system e-bost y Senedd?
Sut y bydd y Comisiwn yn hwyluso cysylltiadau agosach a dyfnach rhwng y Senedd a sefydliadau'r UE?
Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r effaith y mae'r Senedd wedi'i chael o ran ymgysylltu pobl Cymru â democratiaeth Cymru ers datganoli?