Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/07/2022 i'w hateb ar 13/07/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i annog twf economaidd yn y gogledd?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yng Nghasnewydd drwy ddod â chyflogaeth i'r ddinas?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo masnach a buddsoddiad yng Nghymru yn fyd-eang yn dilyn tîm pêl-droed dynion Cymru'n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr y mae newidiadau ym mholisi banciau o ran cyfrifon cleientiaid sydd heb eu dynodi yn cael effaith andwyol arnynt?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd Brexit ar Gymru?
Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro am y 12 mis nesaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo twf economaidd yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o bwysigrwydd ail-sefydlu marina yng Nghaergybi i economi'r dref?
Pa fanteision a ddaw i Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn sgil sefydlu banc cymunedol i Gymru?
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio i sicrhau bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang yn cael ei ymgorffori yn ei pholisi masnach?
Pa astudiaethau a gwerthusiadau sydd wedi'u cynnal o ran effeithiau treth dwristiaeth ar fusnesau Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant lletygarwch?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Sut mae'r Gweinidog yn ystyried llais cleifion er mwyn llywio penderfyniadau ar flaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am sefyllfa gwasanaethau deintyddol a ddarperir drwy’r GIG yn Arfon?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y mesurau ymyrryd wedi'u targedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau tiwmor yr ymennydd?
Sut y mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y ffaith bod tîm pêl-droed dynion Cymru wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022 i wella iechyd y cyhoedd drwy gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod cyfleoedd chwarae ar gael ac yn hygyrch i bob plentyn?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella gwerth maethol prydau bwyd a weinir mewn ysbytai yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'i hagenda gofal iechyd ataliol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal clefyd y galon?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am wasanaethau gofal sylfaenol?