Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/07/2021 i'w hateb ar 13/07/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd ym Mhowys?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut y mae rhaglen Cymru-Affrica wedi cryfhau masnach ag Affrica?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael yn dilyn penderfyniad pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd i ganiatáu i Lywodraeth y DU arddangos baner yr undeb yn ei safle newydd yn y brifddinas?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith amrywiolion COVID-19 sy'n peri pryder ar gymunedau yng Nghaerffili?
Pa bolisïau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dilyn i fynd i'r afael â lefelau tlodi hirsefydlog yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y nifer sy'n dewis cael yr ail ddos o frechlynnau COVID-19 yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lefelau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu tai gofal ychwanegol ledled Cymru?
Sut y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer banc cymunedol yn creu buddsoddiad yng nghymunedau Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant tasglu'r cymoedd dros dymor nesaf y Senedd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu?