Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/05/2025 i'w hateb ar 13/05/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ62715 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl yng Nghymru y mae toriadau lles Llywodraeth y DU yn effeithio arnynt?

 
2
OQ62696 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant sydd wedi cael eu cam-drin?

 
3
OQ62706 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diffodd y rhwydwaith ffôn copr ar drigolion Cymru?

 
4
OQ62694 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gogledd-ddwyrain Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol i fusnesau fuddsoddi ynddo?

 
5
OQ62718 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ariannu gwasanaethau iechyd cynradd?

 
6
OQ62717 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd ar fentrau diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Casnewydd?

 
7
OQ62676 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i deuluoedd sy'n magu plant anabl?

 
8
OQ62678 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol ynglŷn â chyflenwi darpariaeth hamdden?

 
9
OQ62701 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ledled Cymru gyda chostau byw?

 
10
OQ62680 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r rhwydwaith ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro?

 
11
OQ62719 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Pa gymorth gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael i Gylchoedd Meithrin yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

 
12
OQ62689 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod Cymru yn cynnal ei diwydiant ffilm a theledu sy'n tyfu, yn dilyn cyhoeddiad yr Unol Daleithiau y bydd tariffau 100 y cant yn cael eu gosod ar ffilmiau a gynhyrchir yn rhyngwladol?

Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

1
OQ62685 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/05/2025

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y gweithgor llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol?

 
2
OQ62690 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/05/2025

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â goblygiadau'r ffaith bod glo yn fater a gedwir yn ôl o dan Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer ei gallu i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo?

 
3
OQ62674 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/05/2025

Pa asesiad cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r newidiadau y bydd angen i'r sector cyhoeddus yng Nghymru eu gweithredu mewn ymateb i'r dyfarniad yn yr achos For Women Scotland Ltd v Gweinidogion yr Alban?

 
4
OQ62683 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/05/2025

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â rôl awdurdodau lleol wrth weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016?

 
5
OQ62686 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/05/2025

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y diwygiadau arfaethedig i dribiwnlysoedd Cymru?

 
6
OQ62677 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/05/2025

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i gefnogi ymgyrch menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt?