Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/03/2018 i'w hateb ar 13/03/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r nifer sy'n astudio pynciau STEM yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli pellach i Gymru yn sgil trosglwyddo pwerau yn ôl o Frwsel yn dilyn Brexit?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r manteision economaidd sy'n deillio o reilffyrdd treftadaeth i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y papur gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad at wasanaethau iechyd i fenywod?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl cynghorau cymuned a thref yng Nghymru yn y dyfodol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Rwydwaith Mamolaeth Cymru?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd tuag at ddull mwy ataliol o ymdrin ag iechyd gwael yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dagfeydd traffig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Cyflymu Cymru yng ngorllewin Cymru?
Sut y mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn modd agored a thryloyw?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y pecyn cymorth sydd ar y gweill i ddatblygu dull cenedlaethol o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, i'w ddefnyddio gan ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru?
A oes gan lobïwyr fynediad at aelodau o Lywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd gydag arweinwyr y sector technoleg yn ystod ei ymweliad diweddar â'r Unol Daleithiau?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o adroddiad Comisiynydd Plant Cymru ar hygyrchedd ar gyfer cadeiriau olwyn mewn ysgolion yng Nghymru?