Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/02/2019 i'w hateb ar 13/02/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddosddi mewn trafnidiaeth ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod busnesau cynhenid sydd am ehangu a thyfu yn gallu gwneud hynny o fewn eu hardal leol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gontract economaidd newydd Llywodraeth Cymru i fusnesau?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am enillion ariannol a ddaw gan Fanc Datblygu Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gerbydau ar gyfer gwasanaethau rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd?
Sut y bydd gwariant Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus o fudd i'r Rhondda?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith tasglu'r cymoedd yng Nghaerffili?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses arfarnu ar gyfer gorsafoedd rheilffordd newydd?
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd yn agor?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau yng Nghanol De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynnydd o ran cyflwyno'r rhaglen 5G?
Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu asesu llwyddiant bargen twf y gogledd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith a gaiff tueddiadau cyfredol mewn gwerthiannau manwerthu, ar economi ehangach Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau diweddara o ran creu system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol yng Ngorllewin De Cymru?
Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am oblygiadau Brexit ar Sir Benfro?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Porthladd Caergybi pe bai Brexit heb fargen yn digwydd?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cymorth ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru pe bai Brexit heb fargen yn digwydd?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yng nghyswllt cydweithredu â gwledydd eraill ar ôl Brexit?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin yn ystod ei ymchwiliad i 'Brexit, masnach a thollau: goblygiadau i Gymru'?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal o ran hwyluso symud nwyddau i Gymru'n effeithlon ar ôl Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am y brys o ymestyn y dyddiad cau ar gyfer Erthygl 50 y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth 2019?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effeithiolrwydd y cytundeb rhyng-lywodraethol ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit ar fewnfudo i Gymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddogion cyfatebol yn y DU o ran effaith Brexit heb fargen, ar economi Cymru ?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru am aliniad deinamig o ran rheolau cymorth gwladol yr UE?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu'r camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau parhad y cyllid ar gyfer y sector addysg bellach ar ôl Brexit?
Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cymryd i sicrhau bod Cymru yn manteisio cymaint â phosibl ar gytundebau masnach y dyfodol ar ôl Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU yngylch gwarchod hawliau pobl ifanc Cymru i deithio neu weithio ar draws Ewrop yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am oblygiadau Brexit ar lywodreth leol yng Nghymru?