Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/02/2018 i'w hateb ar 13/02/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â thlodi yng Ngorllewin De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y rhagolwg economaidd i Gymru ar ôl Brexit?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pryderon Llywodraeth Cymru am ddyfodol y diwydiant amaethyddiaeth yng Nghymru yn sgil Brexit?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladd Caergybi?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddadansoddiad Centre for Cities y gallai 112,000 o weithwyr wynebu colli eu swyddi yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn unig, o ganlyniad i awtomeiddio?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berthynas Llywodraeth Cymru â llywodraethau rhyngwladol a gweinyddiaethau is-ranbarthol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lles cŵn a chŵn bach yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cyfleusterau addysgol yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gylch gorchwyl ymchwiliad Paul Bowen CF y galwyd amdano ym mis Tachwedd 2017?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo a datblygu'r iaith Gymraeg yng Nghasnewydd?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau economi Cwm Cynon?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r gymuned drawsryweddol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad Age Cymru, Care in Crisis?