Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/01/2026 i'w hateb ar 13/01/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod oedolion ag anableddau dysgu a phobl awtistig yn cael eu cefnogi?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra, ar ôl i'r cais caniatâd cynllunio gael ei gymeradwyo?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer symud mwy o wasanaethau ysbyty yn agosach at ble mae pobl yn byw?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarganfod cemegion 'am byth' carsinogenaidd yn yr hen ffatri 3M yng Ngorseinon?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo safonau diogelwch tân?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau a wnaed i linell Treherbert fel rhan o fuddsoddiad Metro De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i radio cymunedol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r broses o ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ansawdd yr addysg sy'n cael ei darparu ledled Islwyn?
Beth yw uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y setliad datganoli i Gymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl?
A yw’r Prif Weinidog wedi dadlau o blaid adfer map o’r ardaloedd a gynorthwyir fel rhan o bolisi rhanbarthol y Deyrnas Unedig mewn trafodaethau â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig?