Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/01/2021 i'w hateb ar 13/01/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Pa ddarpariaeth ariannol bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud o fewn ei chyllideb flynyddol i fynd i'r afael ag effaith COVID-19 ar anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli yng Nghymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gefnogi pobl y mae'r coronafeirws yn Nwyrain De Cymru wedi effeithio arnynt wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022?
Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ariannu gwasanaethau ieuenctid yng nghyllideb y flwyddyn nesaf?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r risgiau i gyllid cyhoeddus yn sgil pandemig COVID-19?
Pa adnoddau sydd wedi'u neilltuo yng nghyllideb 2021-22 ar gyfer addysg yn y cyfnod ôl-COVID?
Pa gyllid ychwanegol y mae’r Gweinidog yn bwriadu ei roi i’r gyllideb amgylchedd a materion gwledig yn y flwyddyn ariannol bresenol?
Pa fesurau sydd ar waith i wella tryloywder proses gyllidebol Llywodraeth Cymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyllid ar gyfer busnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Gogledd Cymru yn elwa o gyllideb 2021-22?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau y mae'r cyfyngiadau symud cenedlaethol diweddaraf yn effeithio arnynt?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weinyddu cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol ychwanegol a roddwyd i Lywodraeth Cymru gan Drysorlys y DU mewn ymateb i bandemig y coronafeirws?
Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eu haddysg yng Nghymru yn ystod y pandemig presennol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sicrhau bod gan bob disgybl fynediad at yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i alluogi dysgu o bell?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cysondeb o safbwynt dysgu o bell mewn ysgolion ar draws Cymru?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau na chaiff dysgwyr yng Nghymru eu hallgáu'n ddigidol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu ysgolion i ddod o hyd i ffyrdd mwy arloesol o ddarparu addysg yng nghyd-destun y cyfyngiadau a ddaw yn sgil atal y pandemig?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau addysg yng Nghanol De Cymru drwy gydol pandemig COVID-19?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith parhau i gau ysgolion ar safonau addysgol yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag effaith COVID -19 ar anghydraddoldebau mewn addysg yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i athrawon yn ystod pandemig COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran paratoi asesiadau allanol i gymryd lle yr arholiadau TGAU/UG/Safon Uwch ffurfiol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ynghylch mynd i'r afael â'r gagendor digidol wrth i ddisgyblion barhau i ddysgu o bell?
Pa gamau ychwanegol y gellir eu cymryd mewn ysgolion i ddiogelu staff a disgyblion rhag lledaeniad asymptomatig COVID-19?
Comisiwn y Senedd
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ymgysylltu â phleidleiswyr sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio, yn enwedig gan fod ysgolion a cholegau wedi symud i ddysgu ar-lein unwaith eto?
Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i addasu ffyrdd o weithio i Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn gan ddefnyddio gwersi a ddysgwyd o'r cyfyngiadau symud cyn y chweched Senedd?
Pa gamau fydd yn cael eu cymryd gan y Comisiwn i adolygu strwythurau ei dimau ymgysylltu yn sgil effaith pandemig COVID-19 a'r gwariant arnynt?