Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/12/2023 i'w hateb ar 12/12/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am hyfywedd gwasanaethau bysus cyhoeddus yn Nwyfor Meirionnydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru unrhyw effaith o ddatganiad hydref y Canghellor ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwr gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu twristiaeth yng ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda byrddau iechyd ynglŷn â gofal iechyd yr ysgyfaint?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar argaeledd sgrinio iechyd rhywiol yng nghanolbarth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod anghenion cyfathrebu disgyblion anabl yn cael eu diwallu mewn ysgolion?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i wasanaethau bysiau yn Abertawe?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent yn y flwyddyn ariannol nesaf?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gall pobl yng Ngorllewin De Cymru gael gafael ar wasanaethau gofal iechyd o ansawdd da?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith amgylcheddol ac economaidd cau cloddfa glo brig Ffos-y-Frân ym Merthyr Tudful, ar ôl i'r apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi gael ei thynnu yn ôl?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau i greu cyfleoedd cyflogaeth yng Nghasnewydd?