Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/12/2017 i'w hateb ar 12/12/2017
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa fesurau sydd ar waith i graffu ar y cynlluniau y mae awdurdodau lleol yn eu cyflwyno o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth iechyd meddwl yn y gweithle yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng y sector iechyd a'r sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun cyflawni ar gyfer Ein Cymoedd, Ein dyfodol?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r amserlen ar gyfer datganoli pwerau dros ynni o dan Ddeddf Cymru 2017?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr hyn sy’n gyfystyr â siaradwr Cymraeg yn y cynlluniau i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Pryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ddyddiad cychwyn adeiladu cynllun ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae cod y Gweinidogion yn darparu atebolrwydd mewn perthynas â gweithredoedd aelodau'r cabinet?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i wella cyfleoedd gwaith i drigolion Cwm Cynon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella symudedd cymdeithasol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darpru adnoddau ar gyfer newid trawsnewidiol a nodwyd yn y sector cyhoeddus?
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yn ddiweddar am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau ariannol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?