Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/11/2025 i'w hateb ar 12/11/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

1
OQ63365 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod cynghorau yn ymgysylltu'n weithredol â'r gymuned ac yn adlewyrchu barn y gymuned wrth wneud penderfyniadau?

 
2
OQ63374 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl y mae angen tai arnynt yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
3
OQ63398 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi i cyn-garcharorion ar gyfer tai cyngor?

 
4
OQ63399 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi preswylwyr yng Nghanol De Cymru i ôl-osod eu cartrefi?

 
5
OQ63389 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canol trefi yng Ngorllewin De Cymru?

 
6
OQ63362 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu amcangyfrif ar gyfer y costau cynyddol sy'n wynebu llywodraeth leol yn y flwyddyn ariannol nesaf?

 
7
OQ63372 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Pa mor aml y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cofrestrau risg awdurdodau lleol i ganfod a lliniaru risgiau systemig ledled Cymru?

 
8
OQ63369 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Pa sylwadau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gan gynghorau tref a chymuned ynglŷn â'u perthynas ag Archwilio Cymru?

 
9
OQ63395 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am nifer y tai cymdeithasol sy'n cael eu hadeiladu yng Ngwynedd?

 
10
OQ63396 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella hawliau tenantiaid tai?

 
11
OQ63375 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran lleihau nifer y cartrefi gwag hirdymor yn Wrecsam?

 
12
OQ63368 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cyflwr tai yng Nghymru?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OQ63388 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i ysgolion i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd ddiogel a moesegol?

 
2
OQ63383 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r sector addysg awyr agored i hyrwyddo eu gwaith yng Nghymru?

 
3
OQ63393 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar sgiliau bywyd?

 
4
OQ63381 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion ym Mhowys i wella safonau a chyrhaeddiad disgyblion?

 
5
OQ63367 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a hyfforddi nifer ddigonol o athrawon sy'n siarad Cymraeg i gyrraedd ei tharged o ddarparu 10 y cant o'r addysgu yn Gymraeg erbyn 2030?

 
6
OQ63384 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut mae plant yng Nghymru yn cael eu haddysgu am lythrennedd ariannol?

 
7
OQ63390 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddarpariaeth hyfforddiant milfeddygol yng Nghymru?

 
8
OQ63394 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod staff ysgolion ar draws Gorllewin De Cymru yn teimlo'n ddiogel?

 
9
OQ63386 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio a chadw athrawon?

 
10
OQ63397 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiolrwydd cyngor gyrfaoedd sy'n cael ei roi mewn ysgolion, colegau a'r chweched dosbarth?

 
11
OQ63387 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fuddsoddi mewn ysgolion uwchradd?

 
12
OQ63401 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod addysg uwch yn cael ei ddarparu mewn modd amhleidiol?