Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/11/2024 i'w hateb ar 12/11/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu adroddiad cynnydd ar Fetro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru?
Pa berthynas y mae'r Prif Weinidog yn ei rhagweld rhwng Trydan Gwyrdd Cymru a GB Energy?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi nifer y cleifion a arhosodd am fwy na 24 awr am wely ar ôl cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans?
Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o amseroedd aros ar gyfer asesu plant am gyflyrau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth ac ADHD yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo dull partneriaeth gymdeithasol o ran cyflogwyr ledled Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd y gaeaf hwn?
Pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ar gyfer y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cyllid llywodraeth leol?
Beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith y Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Mawrth 2021?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer cyfleuster cynhyrchu hydrogen gwyrdd gan Orsaf Bŵer Penfro?
Pa gymorth fydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gyn-filwyr sy'n chwilio am dai yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y ceisiadau cynllunio a gafodd eu galw i mewn gan Lywodraeth Cymru yn ystod y tair blynedd diwethaf?