Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/10/2022 i'w hateb ar 12/10/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod digon o leoedd ysgolion ar gael i ddisgyblion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr?
Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei darparu i fyfyrwyr prifysgol ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru wrth i'r argyfwng costau byw ddwysáu?
Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y system addysg yn rhoi sgiliau bywyd hanfodol i bobl ifanc?
Beth yw disgwyliad Llywodraeth Cymru o ran categori iaith y ddwy ysgol arloesol newydd dan ei her ysgolion cynaliadwy?
Pa gymorth y mae’r Llywodraeth yn ei roi i ysgolion Arfon a'r awdurdod lleol wrth iddynt gyflwyno’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith gwella yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, Caerdydd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ganlyniadau TGAU a safon uwch haf 2022?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fentrau penodol Llywodraeth Cymru i leihau'r bwlch tlodi o ran cyrhaeddiad myfyrwyr yn dilyn y pandemig?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau uniondeb canlyniadau TGAU a safon uwch?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar nifer y rhai sy'n ymadael â'r ysgol sy'n parhau â'u haddysg drwy fynd i mewn i addysg bellach ac addysg uwch?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael yr addysg orau bosibl?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cynorthwywyr dysgu ysgolion?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau deintyddol cymunedol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gofal brys aciwt mewn ysbytai ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o adroddiad Niferoedd Nyrsio 2022 y Coleg Nyrsio Brenhinol mewn perthynas â Gogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfathrebu gyda chleifion o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau fod capasiti'r GIG yng Ngogledd Cymru yn ddigon i ateb y galw?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chanser y coluddyn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo e-sigaréts i ysmygwyr?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r rhaglen frechu COVID-19?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o lefelau staffio'r GIG yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith ei pholisïau ar wasanaethau gofal asthma?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno gwasanaethau ychwanegol mewn fferyllfeydd cymunedol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau staffio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?