Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/10/2021 i'w hateb ar 12/10/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed dros fisoedd y gaeaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bargen deg i staff gofal cymdeithasol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am driniaeth canser yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed ar reilffordd Treherbert yn y Rhondda fel rhan o fetro de Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yn Sir Benfro?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran datblygu cynllun strategol ar gyfer y grid ynni yn y dyfodol hyd at 2050?
Faint o gartrefi rhent cymdeithasol y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y byddant wedi cael eu hôl-osod erbyn diwedd 2022 fel rhan o'r rhaglen i leihau allyriadau carbon o holl dai Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch atal y toriad mewn credyd cynhwysol, yn unol â'r hyn y gofynnwyd amdano gan arweinwyr y llywodraethau datganoledig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwydiant rasio ceffylau yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella rhagolygon cyflogaeth pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn Islwyn, nad ydynt mewn hyfforddiant na gwaith ar hyn o bryd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thlodi plant?
Sut mae'r Llywodraeth yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i gymunedau yn Nwyrain De Cymru?