Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/09/2023 i'w hateb ar 12/09/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar fanteision isafbris uned am alcohol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sefyllfa ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dad-ddofi yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant lled-ddargludyddion yng Ngorllewin Casnewydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sefyllfa bresennol o ran parhau i fwyngloddio glo yn Ffos y Frân?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynglŷn â chau Parc Antur Eryri?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllun ledled y DU ar gyfer symud yr holl asbestos o adeiladau cyhoeddus Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o fodolaeth RAAC mewn adeiladau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar yr ymgynghoriad ar Strategaeth ddrafft Tlodi Plant Cymru 2023?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod adeiladwyr tai yn cyflawni addewidion i gynnwys mannau gwyrdd o fewn eu datblygiadau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno terfynau cyflymder cyffredinol o 20mya yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roii diweddariad ar y datblygiad a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn SA1?