Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/07/2023 i'w hateb ar 12/07/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am greu cyd-bwyllgorau corfforaethol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cyllido grantiau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i'r angen am gymorth ychwanegol i awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r argyfwng bysiau cyhoeddus wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn dwyn awdurdodau lleol i gyfrif am gyflawni eu dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag awdurdodau lleol ynghylch yr heriau staffio a recriwtio y maent yn eu hwynebu?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cynghorau yng Ngorllewin De Cymru yn cael eu hariannu'n iawn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynglŷn â'r cyllid a ddarperir i awdurdodau lleol i ariannu addysg?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cyllid grant cynnal refeniw yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch cymorth ariannol ychwanegol i awdurdodau lleol barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim i'r rhai sy'n gymwys yn ystod gwyliau'r ysgol?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesedd bwyd?
Sut bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn darparu gwell mynediad hamdden i gefn gwlad?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i leihau nifer yr anifeiliaid anwes, fel pysgod aur, sy'n cael eu rhoi fel gwobrau?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i achosion o ffliw adar pathogenig iawn?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y llywodraeth ynglŷn â chynllun gwella Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer gwasanaethau ar lein Wrecsam i Bidston?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant diod yng Nghymru?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno microsglodynnu gorfodol i gathod yng Nghymru, naill ai drwy ei rheoliadau ei hun neu drwy gydsyniad deddfwriaethol?
A yw'r Gweinidog wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i gyflwyno microsglodynu gorfodol ar gyfer cathod yng Nghymru, naill ai drwy ei reoliadau ei hun neu drwy gydsyniad deddfwriaethol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch effaith datblygu seilwaith ynni ar gymunedau yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i ddileu TB buchol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i adolygu rheoliadau bridio cŵn?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi'r economi wledig?