Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/06/2024 i'w hateb ar 12/06/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canol trefi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyfraith gynllunio i gryfhau mesurau i ddiogelu adeiladau hanesyddol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am niferoedd y tai o dan berchnogaeth gyhoeddus a chydweithredol sydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yn Nwyrain De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i adfywio canol trefi yn Sir Benfro?
Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r heriau sy'n wynebu cyllidebau awdurdodau lleol?
All wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynnydd wrth geisio cyrraedd nod y Llywodraeth i godi 20,000 o dai cymdeithasol ar gyfer y sector rhentu erbyn diwedd y Senedd hon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau mynediad i lyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Canol De Cymru?
A wnaiff Llywodraeth Cymru ddiwygio ei chanllawiau cynllunio i sicrhau bod gan gymunedau gwledig fwy o lais o ran y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am y canllawiau cynllunio mewn perthynas â'r lefelau derbyniol o gysgodion symudol ac iâ sy’n syrthio wrth ystyried ceisiadau am dyrbinau gwynt ar y tir?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am ddiwygio trefniadau llywodraethiant gwasanaethau tân ac achub Cymru?
Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i liniaru effaith amgylcheddol tomenni glo nas defnyddir?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wireddu'r agweddau ar y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol a gyhoeddwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ddiweddar sy'n ymwneud ag addysg uwch?
A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddatganiad am gyllid ar gyfer adnewyddu ysgolion yn Aberconwy?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau'r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion?
Pa arweiniad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i ysgolion yn dilyn adolygiad Cass?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyrhaeddiad addysgol?
Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o werth cymdeithasol y sector addysg bellach?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer ysgolion ym Mlaenau Gwent?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r system addysg ym Mhreseli Sir Benfro?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol?
Sut y mae Cwricwlwm Cymru yn annog plant i gysylltu â'r amgylchedd naturiol yn eu cymuned leol?
Sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo treftadaeth Cymru yn y cwricwlwm ysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd o ran ei diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol?