Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/03/2025 i'w hateb ar 12/03/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

1
OQ62418 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hygyrchedd gwasanaethau trenau a bysiau yn Nwyrain De Cymru?

 
2
OQ62412 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella diogelwch ar y ffyrdd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
3
OQ62424 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa fesurau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cael ei redeg fel busnes cystadleuol ac effeithlon?

 
4
OQ62421 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch gwell cysylltedd trafnidiaeth ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn Wrecsam?

 
5
OQ62446 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau gwytnwch croesiad Pont Britannia?

 
6
OQ62434 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau cadernid y rhwydwaith priffyrdd yn erbyn llifogydd?

 
7
OQ62441 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod llwybrau teithio llesol yn hygyrch i bobl ag anableddau?

 
8
OQ62416 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?

 
9
OQ62426 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella seilwaith trafnidiaeth ar draws Gorllewin De Cymru?

 
10
OQ62442 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cysylltedd trafnidiaeth da cyn gwyliau a digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd?

 
11
OQ62413 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Faint mae Llywodraeth Cymru wedi'i fuddsoddi mewn gwariant cyfalaf ar y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghonwy a Sir Ddinbych ers mis Mai 2021, a beth yw'r buddsoddiad cyfalaf arfaethedig dros y 12 mis nesaf?

 
12
OQ62419 (d) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan drigolion Gorllewin De Cymru fynediad at wasanaethau bysiau?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

1
OQ62440 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch lleddfu tlodi plant?

 
2
OQ62429 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ofgem ynghylch taliadau sefydlog?

 
3
OQ62420 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch darparu cymorth priodol i garcharorion sy'n cael eu rhyddhau o garchardai Cymru?

 
4
OQ62427 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pensiynwyr ar draws Gorllewin De Cymru?

 
5
OQ62435 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch y broses o wneud cais am fathodynnau glas?

 
6
OQ62437 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar weithdrefnau penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru?

 
7
OQ62439 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am hygyrchedd llochesi yng ngogledd Cymru ar gyfer menywod sy'n dioddef ymosodiad rhywiol ac sy'n gwella o ddefnyddio sylweddau?

 
8
OQ62445 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu asiantaeth atal troseddau newydd i wella diogelwch cymunedol?

 
9
OQ62425 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adeiladu cymunedau cryfach ym Mhreseli Sir Benfro?

 
10
OQ62438 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi ymysg menywod yn Nwyrain De Cymru?

 
11
OQ62443 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pensiynwyr?

 
12
OQ62448 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

Sawl rhywedd y mae Llywodraeth Cymru yn ei gydnabod?