Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/03/2019 i'w hateb ar 12/03/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gydlyniant cymdeithasol yng Nghymru?
Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i fynd i'r afael â'r ffordd y mae dosbarth cymdeithasol yn pennu cyfleoedd bywyd pobl yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefel y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gyn-filwyr y lluoedd arfog?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran y ddarpariaeth gwasanaethau profedigaeth?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran yr adolygiad o'r gwasanaeth caffael cenedlaethol?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella perfformiad addysgol yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn Sir Fynwy?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â thlodi ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach a chanolig eu maint sy'n adeiladwyr tai?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella darpariaeth gofal cymdeithasol?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu diben llongau patrolio pysgodfeydd Llywodraeth Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan ysgolion yn y Rhondda ddigon o gyllid i ddarparu addysg dda i ddisgyblion?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd y cynllun cymorth i brynu?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamblo cymhellol ymysg plant a phobl ifanc?