Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/02/2025 i'w hateb ar 12/02/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

1
OQ62279 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyrff llywodraethu chwaraeon i gefnogi'r lluoedd arfog?

 
2
OQ62318 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddatblygiad economaidd ym Mlaenau Gwent?

 
3
OQ62289 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Sut y mae polisi cynllunio Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae llifogydd yn effeithio arnynt?

 
4
OQ62295 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith bosibl y gronfa ffyniant gyffredin yn 2025-26 ar Gymru?

 
5
OQ62311 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i effaith Bil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU ar Gymru?

 
6
OQ62287 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau canol tref yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
7
OQ62286 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am effaith Brexit ar economi Cymru?

 
8
OQ62308 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydlu cwmnïau buddiannau cymunedol?

 
9
OQ62312 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddiogelwch cyfleusterau storio batris arfaethedig yng Nghymru?

 
10
OQ62300 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau costau ynni domestig?

 
11
OQ62294 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy?

 
12
OQ62283 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r celfyddydau a diwylliant yng nogledd-ddwyrain Cymru?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

1
OQ62297 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar amseroedd aros cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd?

 
2
OQ62298 (d) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau mynediad at wasanaethau erthylu?

 
3
OQ62299 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar adran achosion brys Ysbyty Athrofaol y Faenor?

 
4
OQ62291 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol?

 
5
OQ62313 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ddarparwyr gofal cymdeithasol sy'n contractio gwasanaethau ar ran awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol?

 
6
OQ62296 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gofalwyr?

 
7
OQ62304 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menywod ag endometriosis?

 
8
OQ62293 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r heriau recriwtio yn y GIG yng Nghymru?

 
9
OQ62301 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gael gwared ar ofal mewn coridorau yn ysbytai Cymru?

 
10
OQ62316 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynlluniau i ddatblygu canolfan iechyd a lles integredig yng Nghaergybi?

 
11
OQ62314 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan adrannau damweiniau ac achosion brys ddigon o gyllid a chapasiti?

 
12
OQ62307 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/02/2025

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i estyn Rhanbarthau Marmot iechyd cyhoeddus y tu hwnt i Went?