Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/01/2022 i'w hateb ar 12/01/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

1
OQ57402 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith deddfwriaeth gwrth-gaethwasiaeth sy'n effeithio ar Gymru?

 
2
OQ57420 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi elusennau a'r sector gwirfoddol yn ystod pandemig COVID-19?

 
3
OQ57406 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiau cynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol?

 
4
OQ57427 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllun setliad dinasyddion Afghanistan?

 
5
OQ57417 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cyflymu'r broses o weithredu'r rhaglen ôl-ffitio i aelwydydd mewn tlodi tanwydd?

 
6
OQ57412 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwersi a ddysgwyd am anghydraddoldebau cymdeithasol yn sgil y pandemig?

 
7
OQ57403 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith bosibl cynllun gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru ar ryddid i lefaru?

 
8
OQ57405 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Beth yw'r camau nesaf y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas â'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?

 
9
OQ57404 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud tuag at wneud Cymru'n genedl cyflog byw gwirioneddol?

 
10
OQ57424 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo diogelwch cymunedol yng Ngogledd Cymru?

 
11
OQ57411 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru?

 
12
OQ57416 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i blant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches ac sy'n cael eu masnachu sy'n byw yng Nghymru?

Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

1
OQ57418 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r argymhellion a wnaed gan adolygiad annibynnol Syr Christopher Bellamy o gymorth cyfreithiol troseddol?

 
2
OQ57422 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cyswllt hedfan rhwng Caerdydd ac Ynys Môn?

 
3
OQ57414 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion yr Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru gan Gomisiwn y Gyfraith?

 
4
OQ57410 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith technoleg ddigidol ar fynediad i gyfiawnder yng Nghymru?

 
5
OQ57426 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar reoliadau diogelwch tomenni glo?

 
6
OQ57428 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i effaith adolygiad Llywodraeth y DU o ddeddfwriaeth hawliau dynol ar gyfraith Cymru?

 
7
OQ57419 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith Llywodraeth y DU ynghylch effaith y diwygiad arfaethedig i'r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfraith Cymru?

 
8
OQ57407 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU mewn perthynas ag adolygiad Llywodraeth y DU o gyfraith yr UE a ddargedwir?

 
9
OQ57423 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar adolygu'r pwerau cynllunio morol gweithredol a roddwyd i Weinidogion Cymru hyd at 200 milltir forol?

 
10
OQ57415 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar statws cyfreithiol fformiwla Barnett mewn perthynas ag ariannu'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru?

Comisiwn y Senedd

1
OQ57408 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2022

Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar weithgareddau ymgysylltu'r Senedd a'i phwyllgorau?