Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/01/2021 i'w hateb ar 12/01/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa werthusiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau buddsoddiad mewn cynhyrchu batris ar gyfer cerbydau trydan yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwahaniaeth rhwng y ffigurau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'r rhai a ddarparerir yn adroddiadau wythnosol Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar hysbysiadau am glefydau heintus mewn perthynas â COVID-19?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i dorri credyd cynhwysol o fis Ebrill ymlaen?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â hiliaeth mewn chwaraeon?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth ar gyfer cyflwyno brechlyn COVID-19?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ychwanegol i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflenwi a chyflwyno'r brechlyn COVID-19 yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth addysg ar gyfer y plant a'r bobl ifanc mwyaf difreintiedig?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau hunanarlwyo yn ystod y pandemig?
Pa gynlluniau sydd ar waith i roi cyngor gyrfa ychwanegol i raddedigion Cymru mewn ymateb i'r crebachu yn y farchnad lafur a achoswyd gan bandemig COVID-19?
Faint o staff a disgyblion ysgolion meithrin a chynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael canlyniad positif mewn prawf COVID-19 ers 14 Rhagfyr 2020?
Cwnsler Cyffredinol
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith COVID-19 a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig ar fynediad at gyfiawnder yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau cyfreithiol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn erbyn Llywodraeth y DU mewn perthynas â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i herio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn y Goruchaf Lys?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch achos ymgyrch Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch cyfreithlondeb rhoi llety i geiswyr lloches ym maes milwrol Penalun ger Dinbych-y-pysgod?