Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/12/2024 i'w hateb ar 11/12/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

1
OQ62028 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn helpu trigolion y Rhondda sy'n cael trafferth gyda chostau byw?

 
2
OQ62039 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i ddatblygu defnydd y Gymraeg yn ardaloedd dwyreiniol Cymru?

 
3
OQ62013 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod modd cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y brifddinas?

 
4
OQ62026 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch cyllid ar gyfer meddygaeth deulu yng Nghymru?

 
5
OQ62040 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cyflawni canlyniadau i breswylwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych?

 
6
OQ62031 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn effeithio ar bobl Gorllewin De Cymru?

 
7
OQ62034 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i sicrhau bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant twristiaeth?

 
8
OQ62015 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)?

 
9
OQ62024 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa drafodaethau mae'r Llywodraeth wedi eu cael efo Llywodraeth y DU ynghylch sut y bydd unrhyw arian o'r gronfa ffyniant cyffredin yn cael ei ddosbarthu yn y dyfodol?

 
10
OQ62033 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y gwasanaeth y mae siaradwyr Cymraeg yn ei gael yn y gwasanaeth iechyd?

 
11
OQ62010 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

A wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal asesiad o gost darparu lleoedd parcio ceir am ddim i staff ar draws y sector cyhoeddus?

 
12
OQ62022 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau ei bod yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg?

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

1
OQ62023 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

A wnaiff Ysgrifenydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i drigolion a busnesau y mae storm Bert wedi effeithio arnynt?

 
2
OQ62030 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa sail wyddonol y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio wrth gwneud a chymhwyso rheoliadau amaethyddol?

 
3
OQ62038 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn creu mwy o fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol?

 
4
OQ62014 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus ynghylch ailblannu coed yn ddigonol ar ôl cwympo coed aeddfed?

 
5
OQ62035 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai am y cyfraniad y gall galluogi mwy o bobl i ddefnyddio dulliau gwresogi carbon isel yn eu cartrefi ei wneud at gyrraedd targedau'r Llywodraeth o ran lleihau allyriadau carbon?

 
6
OQ62032 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddatganiad am ganlyniadau adroddiad 'Yr Achos Dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru?

 
7
OQ62027 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant ynghylch ei phenderfyniad i beidio â chymryd rhan yng nghynllun dychwelyd ernes y DU?

 
8
OQ62021 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Sut y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydweithio ag aelodau eraill y Cabinet i sicrhau bod cynlluniau'r Llywodraeth yn ymateb i effeithiau newid yn yr hinsawdd?

 
9
OQ62041 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau effaith llifogydd yng Nghonwy a Sir Ddinbych?

 
10
OQ62016 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl a busnesau y mae eu heiddo wedi cael ei ddifrodi gan lifogydd yn ddiweddar?

 
11
OQ62029 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

A yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni’r ymrwymiad maniffesto i greu parc cenedlaethol newydd i Gymru?

 
12
OQ62036 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024

Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i wella synwyryddion rhybudd cynnar ar hyd Afon Conwy, er mwyn sicrhau bod trigolion Dyffryn Conwy a'r ardaloedd cyfagos yn cael rhybuddion cynharach o lifogydd?