Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/12/2018 i'w hateb ar 11/12/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ53102 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r blaenoriaethau economaidd a nodir yn y rhaglen lywodraethu yn darparu ar gyfer pobl ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
2
OAQ53103 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau diweddaraf gyda'r Grid Cenedlaethol am gysylltiad gogledd Cymru?

 
3
OAQ53110 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi teuluoedd?

 
4
OAQ53101 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru?

 
5
OAQ53104 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau addysg yng Nghymru?

 
6
OAQ53078 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu dull Llywodraeth Cymru o bennu targedau ar gyfer yr economi?

 
7
OAQ53108 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer datblygu Maes Awyr Caerdydd?

 
8
OAQ53074 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer yr eiddo preswyl gwag hirdymor yng Nghymru?

 
9
OAQ53092 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i fynd i'r afael â diffygion yng ngweithlu'r GIG?

 
10
OAQ53107 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ganlyniadau iechyd yng Ngogledd Cymru?

 
11
OAQ53071 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau gwerth gorau ar gyfer caffael cyhoeddus?

 
12
OAQ53113 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd yn 2019 i godi safonau byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
13
OAQ53076 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â'r penderfyniad sydd yn yr arfaeth gan Lywodraeth Cymru ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4?

 
14
OAQ53087 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau brys yng Ngorllewin De Cymru?

 
15
OAQ53112 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau na chaiff apwyntiadau eu methu yn GIG Cymru?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

1
OAQ53075 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

Sut y mae Llywodraeth yn defnyddio'r system gynllunio i fynd i'r afael ag anheddau gwag yng Nghaerdydd?

 
2
OAQ53086 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i ddiogelu'r amgylchedd yng Nghymru?

 
3
OAQ53067 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru?

 
4
OAQ53084 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y caiff mesurau ansawdd aer lleol, fel parthau aer glân, eu hariannu?

 
5
OAQ53073 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i fynd i'r afael â llygredd yn afonydd Cymru?

 
6
OAQ53093 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn amaethyddiaeth?

 
7
OAQ53083 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y gall newidiadau i reoliadau cynllunio helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?

 
8
OAQ53096 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynhyrchu mwy o ffrwythau a llysiau yng Nghymru?

 
9
OAQ53085 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cadwraeth forol a bioamrywiaeth yng Nghymru?

 
10
OAQ53080 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwygio hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru?

 
11
OAQ53082 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn dilyn COP24, cynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig?

 
12
OAQ53068 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn gwarchod bywyd gwyllt?

 
13
OAQ53081 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am awdurdodau lleol yn cydweithredu wrth lunio cynlluniau datblygu lleol?

 
14
OAQ53100 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar losgi gwastraff?

Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

1
OAQ53091 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau y cyflwynir band eang cyflym iawn yn ehangach yn Aberconwy?

 
2
OAQ53065 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fand eang cyflym iawn ym Mhreseli Sir Benfro?

 
3
OAQ53090 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl anabl yng Nghymru yn cael triniaeth a chyfleoedd cyfartal?

 
4
OAQ53097 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

Sut y bydd adolygiad Llywodraeth Cymru o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn helpu i wella canlyniadau ar gyfer menywod o Gymru a geir yn euog o droseddau?

 
5
OAQ53095 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gysylltedd 5G yng Nghaerdydd?

 
6
OAQ53066 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd trawsnewid digidol ar draws sector cyhoeddus Sir Benfro?

 
7
OAQ53094 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am rôl chwaraeon o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod?

 
8
OAQ53079 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw yn Ewrop?

 
9
OAQ53072 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

Pa bolisïau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y ceir gwared ar unrhyw rwystrau i gydraddoldeb i bobl anabl?

 
10
OAQ53088 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hybu cydraddoldeb a hawliau dynol pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl?

 
11
OAQ53098 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lles plant Sipsiwn a Theithwyr?

 
12
OAQ53077 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chymunedau ffydd yng Nghymru?

 
13
OAQ53099 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2018

Pa drafodaethau diweddar y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cynnal er mwyn sicrhau band eang yn Rhydymain yn Nwyfor Meirionnydd?