Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/11/2025 i'w hateb ar 11/11/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i bawb?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu gwerth ychwanegol gros Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cyn-filwyr yng Nghymru yn cael cefnogaeth gyson ac effeithiol ar ôl gadael y lluoedd arfog?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar fynediad at ofal plant ym Mlaenau Gwent?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddatblygu rhwydwaith gwres ar draws de Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal iechyd cymunedol yng ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r safonau ymarfer mewn clinigau preifat sy'n gwneud sganiau babanod?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru i hyrwyddo a diogelu iechyd diffoddwyr tân?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant 2029?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau canser?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i dyfu'r economi ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud wrth ddrafftio deddfwriaeth i greu un tribiwnlys haen gyntaf i Gymru?
Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'w galluogi i gynyddu faint o ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio mewn Seneddau yn y dyfodol?
Pa gamau y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd yn ystod gweddill y Senedd hon i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith creu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i ailagor llinellau rheilffyrdd?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar y gweithgor Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol?