Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/10/2023 i'w hateb ar 11/10/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynllun Cymru sy'n Falch o'r Mislif?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r argymhellion a wnaed ynghylch anghenion penodol menywod mewn carchardai yng Nghymru yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dlodi tanwydd yng ngogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau perfformiad gwasanaethau tân ac achub?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effeithiau y bydd costau byw cynyddol yn eu cael ar drigolion y Rhondda y gaeaf hwn?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am waith Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru?
Sut y bydd Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn helpu busnesau bach i dendro ar gyfer gwaith awdurdodau lleol?
Sut y mae'r Gweinidog yn cefnogi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ei gwaith?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru i newidiadau parhaus yn rhwydwaith Swyddfa’r Post?
Sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gydag asiantaethau i hyrwyddo diogelwch cymunedol drwy annog perchenogaeth cyfrifol ar gŵn yn Nwyrain De Cymru?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio lliniaru tlodi plant yn Arfon?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynnydd o ran datganoli cyfiawnder i Gymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ynghylch a yw'r setliad cyfansoddiadol presennol yn gweithio er budd Cymru a'r Deyrnas Unedig?
Sut bydd y Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau trwy ddeddfwriaeth bod y Senedd yn gwasanaethu Cymru'n well?
Pa ystyriaeth a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i gynnwys trefniadau rhannu swyddi ar gyfer rolau Gweinidogol ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch datganoli pwerau dros ddŵr yn llawn i Gymru?
Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch statws cyfreithiol fformiwla Barnett mewn cysylltiad â HS2?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i reoli'r defnydd o dân gwyllt?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch effaith defnyddio dulliau gwyliadwriaeth adnabod wynebau byw ar hawliau dinasyddion Cymru i breifatrwydd a’u rhyddid mynegiant?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o’r effaith a gaiff Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar atebolrwydd Aelodau o'r Senedd?
Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn monitro effaith deddfwriaeth Llywodraeth y DU ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu cyfraith Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch y dirywiad mewn gwasanaethau cymorth cyfreithiol i fewnfudwyr yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf?
Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn hyrwyddo mwy o dryloywder o ran ymgysylltu rhynglywodraethol ar draws llywodraethau’r Deyrnas Unedig?
Comisiwn y Senedd
Beth yw'r costau a ragwelir i Gomisiwn y Senedd yn sgil diwygio'r Senedd?
A oes gan y Comisiwn unrhyw wybodaeth am statws treth perchnogion ystâd Tŷ Hywel?
Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i gynyddu nifer yr ystafelloedd pwyllgora a’r ystafelloedd cyfarfod a all ddarparu ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau ar draws ystâd y Senedd?
Sut y mae'r Comisiwn yn annog ffyrdd o fyw sy’n iach ac yn fwy egnïol ymhlith ei staff?
Pa gynnydd y mae'r Comisiwn yn ei wneud o ran datgarboneiddio ystâd y Senedd?
Pa gymorth y mae'r Comisiwn yn ei ddarparu i staff sy'n mynd drwy'r menopos?
A yw Comisiwn y Senedd yn cymharu ei effeithlonrwydd gweithredol a'i effeithlonrwydd o ran cost â chyrff cyfatebol yn seneddau eraill yn y DU a thu hwnt?
Pa ystyriaeth y mae Comisiwn y Senedd wedi'i rhoi i'w anghydfod parhaus gydag undeb y PCS wrth baratoi ei gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25?