Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/10/2022 i'w hateb ar 11/10/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith bosib polisïau economaidd Llywodraeth y DU ar wasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynglŷn â'r argyfwng costau byw sy'n wynebu trigolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella'r cyflenwad o eiddo preifat i'w rentu?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi teuluoedd sydd wedi dioddef colli babanod?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â phwerau pellach i Gymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog twristiaeth yng Nghymru?
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith gweithredoedd diweddar Llywodraeth y DU ar gyfrifoldebau datganoledig?
Faint o ymweliadau ag ysbytai yng Ngorllewin De Cymru y mae'r Prif Weinidog wedi ymgymryd â hwy ers iddo ddod yn Brif Weinidog?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu twf economaidd yn Islwyn?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r gwahaniaethau rhwng y nifer a gaiff eu derbyn i brentisiaethau gradd a'r nifer a gaiff eu derbyn i brifysgolion?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â thrwyddedu arfau tanio yng Nghymru?