Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/07/2023 i'w hateb ar 11/07/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa sylwadau fydd y Prif Weinidog yn eu gwneud i Lywodraeth y DU i gefnogi'r achos dros gadw swyddi Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu cynefinoedd a chynyddu bioamrywiaeth?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bobl ag anableddau dysgu fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bobl yng Ngorllewin De Cymru fynediad at ofal iechyd digonol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar Orllewin Casnewydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yng Nghaerffili?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ddarpariaeth nofio am ddim yn ystod y gwyliau haf i blant yng Nghaerdydd?
Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu lliniaru tlodi plant yn Nwyrain De Cymru dros wyliau haf ysgolion?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sefydlu grŵp cynghori gweinidogol ar atebolrwydd GIG Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i blant sy'n byw mewn cartrefi tlotach?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog twristiaid rhyngwladol i ymweld â Chymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo negeseuon ynghylch pwysigrwydd diogelwch dŵr?