Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/06/2025 i'w hateb ar 11/06/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o hyfywedd Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu diweddariad ar ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygu banc cymunedol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi hwb i economi Dwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am rôl prifysgolion o ran datblygu'r economi?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw integreiddio deallusrwydd artiffisial yn y gweithle yn amharu ar hawliau gweithwyr?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ynghylch goblygiadau'r ardoll ymwelwyr ar gyfer digwyddiadau mawr?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o effaith prosiectau ynni adnewyddadwy ar y tir mawr ar gymunedau?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y gofynion cydsyniad cynllunio ar gyfer cynlluniau peilon mawr?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sectorau celf a diwylliant ar draws Gorllewin De Cymru?
Beth yw amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer uwchraddio darpariaeth rhyngrwyd o geblau copr i geblau ffeibr optig?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar dir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at chwaraeon i blant ag anableddau?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynllun gweithredu ar gyfer dementia?
Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i fynd i'r afael â diagnosis hwyr canser y pancreas ac i sicrhau mynediad cynharach at offer diagnostig i gleifion?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan Brif Swyddog Meddygol Cymru i ddiogelu iechyd diffoddwyr tân?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o sut y mae'r contract optometreg newydd ar gyfer 2024-25 yn gweithio i gleifion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cefnogaeth i fenywod sy'n profi poen neu gymhlethdodau yn sgil trinaethau iechyd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth cludo cleifion ysbytai gan y GIG yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau achosion o farw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol?
Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o berfformiad gwasanaethau iechyd meddwl ar Ynys Môn?
Sut y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i sicrhau bod gan ddatblygiadau tai newydd fynediad digonol at wasanaethau gofal sylfaenol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gofal diwedd oes urddasol a thosturiol ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effeithiolrwydd y porth mynediad deintyddol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gwasanaethau newydd mewn fferyllfeydd?