Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/06/2024 i'w hateb ar 11/06/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi’r economi yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd gwahanol ganlyniadau etholiad cyffredinol y DU yn ei chael ar Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â thlodi plant?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau gofal iechyd i blant a phobl ifanc yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lefelau llygredd afonydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y plant sydd ar restrau aros y GIG yn Sir Fynwy?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â chefnogaeth i breswylwyr y mae cynllun Arbed wedi effeithio'n andwyol arnynt?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gan drigolion Gorllewin De Cymru hyder mewn gwasanaethau iechyd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau ailgylchu yn Nyffryn Clwyd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd tuag at ddatganoli pwerau ynghylch marw â chymorth i Gymru?