Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/06/2019 i'w hateb ar 11/06/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu'r amgylchedd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd ei mesurau i fynd i'r afael â thlodi?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gofal ar gyfer cleifion strôc yn y Rhondda?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo diogelwch dŵr ac atal boddi ymysg plant ac oedolion?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gryfhau addysg ôl-16 yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau rheoli poen sydd ar gael i drigolion yng ngogledd Powys?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu cyflogaeth yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cynnydd diweddar mewn troseddau cyllyll yng Nghanol De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn ne Cymru mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a gyhoeddwyd?
Pa fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu i seilwaith rheilffyrdd yn Arfon?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran codi uchafswm y cyfalaf ar gyfer cyfraniadau at gostau cartrefi gofal?