Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/05/2022 i'w hateb ar 11/05/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau deintyddiaeth GIG yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau amseroedd aros yn Ysbyty Athrofaol y Faenor?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddelio â'r ôl-groniad o lawdriniaeth ddewisol yng Ngogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo negeseuon iechyd cyhoeddus cryf gyda chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru?
Pa ganran o gysylltiadau gorfodol ag ymwelwyr iechyd drwy raglen Plant Iach Cymru a gynhaliwyd yn y cnawd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
Pa gefnogaeth sy'n cael ei roddi gan y Llywodraeth i fyrddau iechyd i'w galluogi i roddi presgripsiynu cymdeithasol ar waith?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â mynediad at wasanaethau meddygon teulu yng Nghaerdydd a'r Fro?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ynghylch gofal sylfaenol yn etholaeth Ogwr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad cleifion at wasanaethau gofal heb ei drefnu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella perfformiad adrannau achosion brys yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau ambiwlans yn sir Benfro?
Gweinidog yr Economi
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddenu buddsoddiad economaidd sylweddol i Gasnewydd?
Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi undebau credyd?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch effaith bosibl Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ar y sector twristiaeth yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth yng nghymoedd de Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i achub a chreu swyddi ar hen safle Alwminiwm Môn?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiad SA1 yn Abertawe?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd treth dwristiaeth yng Ngogledd Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygu economaidd yng Nghasnewydd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau'r stryd fawr?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ardal fenter yng nghefn gwlad canolbarth Cymru?
Pa gymorth sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu mentrau cymdeithasol a'r economi gymdeithasol yng Nghanol De Cymru?
Beth yw targedau'r Gweinidog ar gyfer twf economaidd yn ystod tymor y Senedd hon?