Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/03/2026 i'w hateb ar 11/03/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o adroddiad pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg - Cyfle ein cenhedlaeth: Sefyllfa’r Gymraeg 2021–25
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at dargedau Cymraeg 2050 yng Nghaerdydd, gan gynnwys sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cadwraeth hirdymor a defnydd dyddiol o'r Gymraeg ledled y ddinas?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganlyniadau datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU i bobl Islwyn?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ryddhad ardrethi busnes ar gyfer tafarndai a bwytai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o effaith y cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ba ddyraniadau cyllid canlyniadol Barnett y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu cael yng ngoleuni datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y bydd ardoll ymwelwyr Llywodraeth Cymru yn ei chael ar Ddwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar oblygiadau datganiad gwanwyn Llywodraeth y DU ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd yr arian a godir o'r ardoll ymwelwyr yn cael ei fuddsoddi mewn seilwaith twristiaeth?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gronfa Buddsoddi i Arbed?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwerth am arian wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet amlinellu'r cynydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud tuag at cyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae cynlluniau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Rhwydweithiau Natur yn cysylltu pobl â byd natur?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella ansawdd dŵr mewn afonydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella proffidioldeb yn y sector ffermio?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector amaethyddol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella diogeledd bwyd yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion i ddarparu atebion parhaol i lifogydd afonol yn Sir Ddinbych?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am lygredd aer a dŵr yn Abertawe?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad Dŵr Cymru wrth wasanaethu pobl Islwyn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod yr un o bob saith eiddo yng Nghymru sydd mewn perygl o lifogydd wedi cael cyngor am fesurau gwydnwch llifogydd eiddo a allai fod o fudd iddynt?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn sgil darganfod cemegau am byth carsinogenaidd yn yr hen ffatri 3M yng Ngorseinon?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymrwymedig i’w tharged gwreiddiol ar gyfer creu coetiroedd newydd erbyn 2030?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynnydd tuag at gyflwyno cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru?