Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/03/2025 i'w hateb ar 11/03/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella gofal eilaidd ar gyfer trin endometriosis?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canol trefi yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion buddsoddi ar gyfer datblygiad y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod menywod sy'n cael diagnosis o ganser y fron yn cael triniaeth a chymorth digonol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad o ran cynnydd y gwaith i ddatblygu'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at wasanaethau a gweithgareddau ar gyfer plant anabl?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad twf gwyrdd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd tra'n gwneud teuluoedd yn well eu byd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn seilwaith i ysgogi twf economaidd yn Delyn?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r angen am fforwm llifogydd i Gymru?
Beth yw cynlluniau a nodau presennol y Prif Weinidog ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n byw mewn tlodi?
Pa asesiad diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd ar Gymru yn sgil y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod digon o gyflenwadau o feddyginiaeth ar gael i bobl Cymru?