Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/02/2026 i'w hateb ar 11/02/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

1
OQ63823 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn delio â pharcio ar balmentydd?

 
2
OQ63819 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i wella gwasanaethau i gymudwyr yng nghanolbarth Cymru?

 
3
OQ63847 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddatblygiad Metro De Cymru?

 
4
OQ63822 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Ngogledd Cymru?

 
5
OQ63838 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith trafnidiaeth ym Mro Morgannwg?

 
6
OQ63828 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch pobl sy'n dewis teithio llesol?

 
7
OQ63813 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro?

 
8
OQ63835 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i ddenu digwyddiadau chwaraeon i ogledd Cymru?

 
9
OQ63850 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddibynadwyedd gwasanaethau trên i ogledd Cymru ac oddi yno?

 
10
OQ63827 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella diogelwch yr A55?

 
11
OQ63816 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith diogelwch Croesffordd Pont-y-bat ar yr A470?

 
12
OQ63845 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch yr A494 Lôn Fawr yn Rhuthun?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

1
OQ63814 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi elusennau ym Mhreseli Sir Benfro?

 
2
OQ63809 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl yng Ngorllewin De Cymru gyda phwysau costau byw?

 
3
OQ63840 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i ddyfarniad y Goruchaf Lys bod menyw yn cael ei diffinio gan ryw fiolegol?

 
4
OQ63832 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau dynol pobl yng Nghymru?

 
5
OQ63817 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Sut bydd cynllun hawliau pobl anabl Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl?

 
6
OQ63844 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro dibynadwyedd y ffordd y mae'r Post Brenhinol yn ymdrin â gohebiaeth gwasanaeth cyhoeddus?

 
7
OQ63843 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith rhoi terfyn ar ddarlledu teledu daearol ar bobl hŷn, pobl anabl, ac unigolion ar incwm isel?

 
8
OQ63820 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cefnogi cynhwysiant digidol yng nghanolbarth Cymru?

 
9
OQ63834 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf a'r amserlen ar gyfer y ganolfan breswyl arfaethedig i ferched yn Abertawe?

 
10
OQ63833 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â'r rôl y mae addysg grefyddol yn ei chwarae wrth wella a chefnogi cydlyniant cymunedol?

 
11
OQ63848 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw materion cydraddoldeb menywod yn cael eu gwthio i'r ymylon?

Comisiwn y Senedd

1
OQ63846 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Sut mae'r Comisiwn yn annog pobl ifanc i bleidleisio yn etholiad y Senedd sydd i ddod ar 7 Mai 2026?

 
2
OQ63821 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Pa gamau mae'r Comisiwn yn eu cymryd i alluogi staff i gael ffordd o fyw mwy iach ac egnïol?