Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/02/2025 i'w hateb ar 11/02/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar astudiaeth ddiogelwch ffordd osgoi yr A40 Rhaglan a gynhaliwyd gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cymorth sydd ar gael i bobl ag anhwylderau bwyta?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd undebau llafur i weithleoedd yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r rheolau ar roddion gwleidyddol cyn etholiad nesaf y Senedd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r diwydiant hamdden am y camau y maent yn eu cymryd i ddatgarboneiddio eu hadeiladau?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau pan fydd atgyweiriadau ffyrdd yn digwydd ar y rhwydwaith cefnffyrdd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid undebau llafur i hyrwyddo dull partneriaeth gymdeithasol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fanteisio ar ymchwil a datblygu a wneir gan sector addysg uwch Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach?
A wnaiff y Prif Weinidog wneud datganiad am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn colegau a prifysgolion?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi athrawon yn y canolbarth?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch buddsoddiadau seilwaith mawr?