Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/02/2020 i'w hateb ar 11/02/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau llygredd diwydiannol?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r gwelliannau a wnaed i'r gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar Weinyddu nawdd cymdeithasol yng Nghymru: Tystiolaeth o ddiwygiadau posibl?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais a cham-drin domestig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reolau dŵr newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â llygredd?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn y GIG?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau bysiau yng nghymoedd de Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen Gwella Cartrefi Gofal Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol llong ymchwil y Prince Madog?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoliadau llygredd amaethyddol yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i recriwtio meddygon ymgynghorol mewn ysbytai yn ne Cymru?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella lles anifeiliaid yn ystod y 12 mis nesaf?