Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 06/01/2022 i'w hateb ar 11/01/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gapasiti ysbytai yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leddfu'r pwysau ar GIG Cymru y gaeaf hwn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y newidiadau arfaethedig i amserlenni sgrinio serfigol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i gostau byw cynyddol yng Nghymru?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn perthynas â'r addewid i ddarparu cynnig gwaith, addysg neu hyfforddiant i bawb dan 25 oed a nodwyd ym maniffesto Llafur Cymru yn 2021?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ffordd fwyaf teg o asesu ansawdd dysgu ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5 yn sgil y don ddiweddaraf o COVID-19?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Chlwb Pêl Droed Caer a Chyngor Sir y Fflint yn dilyn y gêm yn Stadiwm Deva ar 28 Rhagfyr 2021?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu yn yr ysgol y tymor hwn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith lefel rhybudd dau ar gyfer COVID-19 yng Nghaerffili?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chlybiau pêl-droed am gyfyngiadau COVID-19?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â chamwybodaeth am COVID-19?