Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/12/2025 i'w hateb ar 10/12/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu tai fforddiadwy?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau i uwchraddio'r seilwaith allweddol sydd ei angen i ddarparu ar gyfer datblygiadau tai mewn cymunedau sy'n tyfu?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar lywodraethiant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y peilot cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i ddiwallu anghenion tai yn Islwyn?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar setliad arfaethedig Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Sir Powys?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adeiladu tai yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ffordd y mae'n dyrannu cyllid i gymunedau a chynghorau yng Ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynglŷn â'r fformiwla ariannu a ddefnyddir i bennu ei grant cynnal refeniw?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth athrawon cyflenwi?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r ffordd o addysgu ieithoedd modern mewn ysgolion?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ei chyllideb adrannol?
Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi lefelau staffio hirdymor ysgolion yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar hygyrchedd addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddarad ar y camau y mae'n eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl a llesiant athrawon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio a chadw athrawon yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllidebau ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella cyrhaeddiad a safonau mewn ysgolion yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddarpariaeth addysg ryw mewn ysgolion?