Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/12/2024 i'w hateb ar 10/12/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ62020 (d) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn cadw at ei hymrwymiadau statudol i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?

 
2
OQ62025 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i annog buddsoddiad ar gyfer Gogledd Cymru?

 
3
OQ62011 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn Nelyn?

 
4
OQ62037 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn asesu ac yn monitro safonau addysgol?

 
5
OQ62045 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

Pa gymorth ariannol mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i adfywio canol trefi?

 
6
OQ62043 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddiogelwch tomenni glo yn dilyn stormydd diweddar?

 
7
OQ62044 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o wytnwch ariannol cynghorau ledled Cymru?

 
8
OQ62019 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y saith cais cynllunio y galwyd arnynt i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Tachwedd 2024?

 
9
OQ62018 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi agenda atal y GIG?

 
10
OQ62012 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod canol trefi yn hygyrch i bawb?

 
11
OQ62008 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Sêr Cymru?

 
12
OQ62017 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at feddygon teulu yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?